|
Adeiladwyd y gwesty yn wreiddiol fel gwesty ar gyfer y goests fawr tua 1780. Mae'r ystafelloedd felly yn fawr a
helaeth. Mae ystafell fath neu gawod breifat gyda phob ystafell.
Mae teledu lliw, cyfleusterau coffi/te a gwres canolog yn gwneud y gwesty yn gynnes a chyfforddus hyd yn oed ym misoedd y
gaeaf.
Mae ein lolfa a'n bar ar gyfer y cyhoedd yn enwog am eu croeso a'u cyfeillgarwch.
Mae'r Bala'n llawn hanes. Tref ar lan y llyn naturiol mwyaf yng Nghymru. Mae'r Bala ar drothwy Eryri ac yn ganolfan hwylus i deithio Gogledd a Chanolbarth Cymru. Rhaid i bawb sy'n hoffi trenau gofio cael taith ar Reilffordd Llyn Tegid.
Mae'r bwyty, sy'n agored i'r rhai nad ydynt yn westeion, yn ymfalchio mewn coginio traddodiadol Gymreig gyda'r pwyslais ar gynnyrch lleol a dewis da o win i gyd-fynd
gyda'pryd.
Gweithgareddau
Golff
Mae gan Y Bala ei gwrs golff naw twll ei hun yng nghanol golyfeydd gwych. Mae prisiau gostyngol hael iawn ar gael i'n
gwesteion.
Hwylio
Mae Llyn Tegid yn cynnig un o'r darnau ehangaf o ddwr ar gyfer hwylio ac yntau bron yn 4 milltir o
hyd.
Canwa a Hwylfyrddio
Trefnir gwyliau ar y cyd gyda'r Ganolfan Chwaraeon Dwr leol.
Cerdded a Mynydda
Cewch ddigon o ddewis yn ardal Y Bala gan gynnwys llwybrau ar y Berwyn a'r Aran. Cewch gyngor ar ddewis y lllwybrau
gorau.
P ysgota
Gallwch gysylltu â physgotwyr lleol am gyngor.
Gerllaw y mae chwareli llechi, melinau gwlân, cestyll, amgueddfeydd a llawer o atyniadau eraill i'ch
denu.
Maes parcio sylweddol tu ôl i'r gwesty i westeion.
|